Podcast charts
Published by Jomec Cymraeg/Y Darlledwyr
Dyma bodlediad i chi fydd yn datgelu popeth chi erioed wedi ishe gwybod am rai o ddarlledwyr/newyddiadurwyr gorau Cymru.
On the charts
Every published chart this podcast appears in, in the snapshot behind this page. Each one links to the chart it came off.
From the feed
The latest episodes published to this podcast’s own RSS feed. Titles and descriptions are the publisher’s.
Beth ydy'r BBC erioed wedi gwneud i ti? Kieran Miller sy'n holi cyfarwyddwr dros dro BBC Cymru, Garmon Rhys ar drothwy cyhoeddiad mawr am sut y bydd y gorfforaeth yn arbed £9m. Kieran sy'n holi fydd 'na swyddi i fyfyrwyr newyddiaduraeth wedi iddyn nhw raddio, a sut mae Garmon yn perswadio'r penaethiaid yn Llundain bod gwerth gwarchod y ddarpariaeth Gymraeg ar adeg o doriadau.
Yn y bennod hon, mae Myfi Morris, myfyrwraig yn y flwyddyn gyntaf yn JOMEC, yn cael sgwrs gyda Caitlin Lovell - newyddiadurwraig sydd yn arbenigo ar lwyfannau digidol gyda ITV Cymru. Yn y cyfweliad, mae Caitlin yn rhannu ei stori o weithio gyda Hansh Dim Sbin, yn gweithio ar raglen Tanwen & Ollie, ac yn paratoi i weithio ar y darllediad sydd ar ddod o etholiad y Senedd.
Jacob Morris, gohebydd gwleidyddol digidol Newyddion S4C yw gwestai arbennig Jomec Cymraeg y tro hwn. Ifan Meredith o'r ail flwyddyn sy'n ei holi am y byd newyddion digidol.
Yn y bennod hon, mae Elen Morlais, myfyrwraig yn yr ail flwyddyn sy’n astudio’r Gymraeg a Newyddiaduraeth, yn cael sgwrs ddifyr gyda Daf James - dramodydd, cyfarwyddwr, cyfansoddwr ac awdur anhygoel sydd wedi gwneud enw iddo’i hun ar draws Cymru a thu hwnt. Mae Daf yn ffigwr blaenllaw ym myd creadigol cyfoes yng Nghymru, gyda gweithiau fel Llwyth, Tylwyth, Lost Boys and Fairies a llawer mwy wedi ennill canmoliaeth eang. Yn y podlediad hwn, cawn glywed mwy am ei daith greadigol, ei ysbrydoliaeth, a’i brofiadau’n gweithio ym myd theatr, cyfryngau a ffilm, yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Sara Esyllt, un o gyflwynwyr Newyddion S4C o'r BBC yw gwestai arbennig Jomec Cymraeg y tro hwn. Gabrielle Hughes o'r ail flwyddyn sy'n ei holi hi am golur a rhywiaeth yn y byd newyddiadurol a gwranda i'r diwedd i glywed pwy fyddai Sara yn gollwng popeth i gael cyfle i'w holi!
Yn y bennod hon, Ffion Evans o'r drydedd flwyddyn sydd yn siarad gydag Elan Iâl, cyfarwyddwr cwmni Libera. Gyda 8 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y cyfryngau, mae Elan yn arbenigo yn y maes cyfryngau cymdeithasol, digidol a marchnata.
Ciaran Jenkins o Channel Four News yw gwestai JOMEC Cymraeg yn y rhifyn arbennig yma - Sgŵps, Sgandals a Sgrolio: Pwy sy’n becso am y Newyddion? Cafodd y podlediad hwn ei recordio ar leoliad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd eleni gyda un o’n graddedigion, Nest Jenkins o ITV yn holi. Wedi blwyddyn heriol i’r byd newyddiadurol, Ciaran sy’n lleisio barn am newyddiaduraeth Cymru, rôl gohebwyr, sut i ad-ennill ffydd pobl mewn newyddion a hefyd, fel chwaraewr cello o fri - pa newyddiadurwr enwog fasai e’n hoffi gwneud deuawd â nhw?
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Tegan Rees. Mae Tegan wedi graddio o JOMEC haf yma, 2024.
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Megan Taylor. Mae Megan yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel swyddog cyfathrebu i Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru. Mae Megan hefyd yn dod o Bontypridd, cartref Eisteddfod 2024.
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Jack Thomas o flwyddyn 2 sydd yn cyfweld â Molly Sedgemore. Mae Molly yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i S4C. Mae Molly hefyd yn dod o RCT, lleoliad Eisteddfod 2024.
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Hannah Williams o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld â Jess Clayton. Mae Jess yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i ITV. Mae Jess hefyd yn dod o RCT, lleoliad Eisteddfod 2024. Cynhyrchydd y pod: Jack Thomas (JOMEC, blwyddyn 2)
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, mae Owain Davies o flwyddyn 3, yn cyfweld a'r sylwebydd pêl-droed Dylan Griffiths.
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, mae Poppy Goggin Jones o flwyddyn 1, yn cyfweld a'r You Tuber ReniDrag neu Tomas Gardiner! Erbyn hyn mae gan ReniDrag dros hanner filiwn o danysgrifwyr ar You Tube, ac fe yw un o You Tubers mwyaf llwyddiannus Cymru.
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda chyfranwyr sydd yn gweithio yn y maes newyddiaduriaeth a'r cyfryngau yng Nghymru. Yn y bennod yma, Hanna Morgans Bowen o flwyddyn 1 sydd yn cyfweld ag Aled Biston. Mae Aled yn gyn-fyfyriwr yn JOMEC, ac erbyn hyn yn gweithio fel newyddiadurwr i newyddion S4C.
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda rhai o’n graddedigion. Yn y bennod yma, mae Lena Mohammed, sydd yn ei blwyddyn olaf, yn sgwrsio gyda'r cyflwynydd Melanie Owen. Mae Melanie yn cyflwyno pods, yn gwneud 'stand-up' ac yn ysgrifennu colofnau. Dyma'i stori hi!
Mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu penblwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda rhai o’n graddedigion. Yn y bennod yma, mae Lois Jones o’r drydedd flwyddyn yn sgwrsio gyda Beth Williams, cyn- fyfyriwr yma yn JOMEC Cymraeg ac sydd bellach yn gweithio gyda BBC Cymru. Mwynhewch.
Yn y bennod yma, mae Efa Ceiri o’r drydedd flwyddyn yn sgyrsio gyda Catrin Lewis, cyn- fyfyriwr yma yn JOMEC Cymraeg ac sydd bellach yn gweithio gyda Golwg 360. Mwynhewch!
Yn y bennod yma, mae Carys Williams – sydd yn astudio cyfryngau, newyddiaduraeth a diwylliant ym Mhrifysgol Caerdydd – yn cyfweld a Dafydd Wyn Orritt sydd yn swyddog gweithredol cyfrif yn Equinox Communications. Mae gan Carys uchelgais i weithio yn y diwydiant PR, ac felly, dyma hi’n holi Dafydd am ei brofiad prifysgol, ei yrfa hyd yn hyn, a’i farn am y diwydiant cyfathrebu.
Eleni mae JOMEC Cymraeg yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg. I gyd-fynd gyda’r achlysur, dyma gyfres o pods gyda rhai o’n graddedigion. Yn y bennod yma mae Millie Stacey o’r drydedd flwyddyn yn sgwrsio gyda Tirion Davies. Fe wnaeth Tirion graddio o JOMEC ar ôl astudio Cymraeg a newyddiaduraeth fel myfyriwr israddedig, cyn gwneud y cwrs MA darlledu, eto yn JOMEC. Mae Tirion nawr yn gweithio fel newyddiadurwraig radio i Global News.
Rhifyn arbennig yw hwn am ddyfodol newyddiaduraeth ddigidol yng Nghymru. Cafodd y pod ei recordio ar leoliad ar faes Eisteddfod yr Urdd, Llanymddyfri, 2023. Mae Lois Campbell o flwyddyn 3 yn sgwrsio gyda Ciara Conlon a Jess Clayton o dîm cynhyrchu Hamsh Dim Sbin/ITV Cymru.
Ranking source
Apple Podcasts rankings via the Mato Topic Intelligence Platform.
Observed November 4, 2026.
Apple and Apple Podcasts are trademarks of Apple Inc., registered in the U.S. and other countries.
Pairs with
Bring this source into Mato to read its transferable patterns, then turn them into an original show for your own audience.